Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 23 Chwefror 2016 a dydd Mercher 24 Chwefror 2016

Dydd Mawrth 1 Mawrth 2016 a dydd Mercher 2 Mawrth 2016

Dydd Mawrth 8 Mawrth 2016 a dydd Mercher 9 Mawrth 2016

 

Dydd Mawrth 23 Chwefror 2016

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) 

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Y diweddaraf am y Rhaglen Buddsoddi i Arbed (30 munud)

·         Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (15 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai a Chynllunio sy'n ymwneud â rhyddfreinio ac estyn lesddaliadau hir (30 munud)

·         Cynnig i amrywio trefn Gwelliannau ar gyfer Cyfnod 3 y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) (5 munud)

·         Cynnig i ystyried trefn Gwelliannau ar gyfer Cyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (5 munud)

·         Dadl ar Adroddiad Blynyddol Estyn (60 munud)

·         Dadl ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 - Dyletswydd i Adolygu - Adroddiad Terfynol (60 munud)

 

 

Dydd Mercher 24 Chwefror 2016

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

 

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (60 munud)

·         Dadl ar yr adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar weithgareddau cynrychiolwyr Cymru ar Bwyllgor y Rhanbarthau, yr UE (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Dadl Fer – Russell George (Sir Drefaldwyn) (30 munud)



Dydd Mawrth 1 Mawrth 2016

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) 

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Gorchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 2016 (15 munud)

·         Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2016 (15 munud)

·         Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2016 (15 munud)

·         Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2016 (15 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Tai a Chynllunio sy'n ymwneud â Darpariaethau Prynu Gorfodol ac ati (15 munud)

·         Cyfnod 3 y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) (180 munud)


Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y cynnig. Os nad yw’r Cynulliad yn cytuno ar y cynnig, caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

 

 

Dydd Mercher 2 Mawrth 2016


Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)



Busnes y Cynulliad

 

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ei adolygiad o Ddeisebau Cyhoeddus (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer - Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) (30 munud)


Dydd Mawrth 8 Mawrth 2016

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) 

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgorio Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016 (15 munud)

·         Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (15 munud)

·         Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Storio Olew) (Cymru) 2016 (15 munud)

·         Cyfnod 4 y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) (15 munud)

·         Dadl ar Ail Gyllideb Atodol 2015-16 (30 munud)

·         Dadl ar y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2016-17 (60 munud)

·         Cyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (180 munud)



Dydd Mercher 9 Mawrth 2016

 

Busnes y Llywodraeth

 

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)

·         Dadl ar Setliad Llywodraeth Leol 2016-17 (60 munud)

·         Dadl ar Setliad yr Heddlu 2016-17 (60 munud)

 

Busnes y Cynulliad

 

·         Cynnig i gymeradwyo diwygiadau i'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad (10 munud)

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Dadl ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Dyfodol ynni craffach i Gymru (60 munud) 

·         Dadl Fer - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) (30 munud)